Latest News
Rydyn ni yma!!! Waw!!! Am adeilad ffantastig!! Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i brynhawn agored ar Ddydd Gwener Ionawr 31ain er mwyn i chi ymfalchio yn ein cyfleusterau newydd!!
We are in!! Waw!! What an amazing building!! We are very much looking forward to welcoming you to our open afternoon on Friday January 31st so you can appreciate our fantastic new facility!!
-
Wythnos gwrth-fwlio 2025
Wed 12 Nov 2025Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn trafod sut gall geiriau a gweithredoedd frifo teimladau pobol. Rydyn ni wedi bod yn perfformio dramau byr ac ysgrifennu cardiau caredigrwydd hefyd! #byddwchyngaredig
This week we have been talking about how words and actions can hurt others. We have been performing short dramas and writing kindness cards! #bekind
-
Ymweliad gan Mrs Thomas o Fanc Bwyd y Rhondda / A visit from Mrs Thomas, who manages The Rhondda Food Bank
Wed 05 Nov 2025Diolch o galon i Mrs Theresa Thomas am ddod i’n gwasanaeth bore ‘ma i ddiolch i ni am gasglu ar gyfer Banc Bwyd y Rhondda. Fe glywson ni bod dros 4000 o bobol wedi elwa o becynnau bwyd yn ystod y flwyddyn diwetha, a bod y galw am fwyd yn cynyddu. Roedd nifer o blant wedi gofyn cwestiynau call iawn, ac roedd Mrs Thomas wedi dwli siarad gyda’r disgyblion. Rydyn ni yn ffodus iawn i gael Mrs Thomas fel un o lywodraethwyr ein hysgol!
A huge thank you to Mrs Theresa Thomas, the manager of The Rhondda Food Bank for coming to our assembly this morning to talk to the pupils about her work. We heard that during the last year the Food Bank has been able to help over 4000 people including families with children. Lots of sensible questions were asked by our pupils, and Mrs Thomas really enjoyed talking to them. We are very fortunate that Mrs Thomas is one of our valued members of the Governing Body!
-
Ymweliad gan Orchid, y ci tywys / A visit from Orchid the guide dog
Tue 04 Nov 2025Fel parhad i’n thema ysgol gyfan, Amrywiaeth, cawsom ymweliad gan Orchid y ci tywys, gyda Josh, Tony a Jen. Fe glywson ni gan Josh beth yw gwaith Orchid, a sut mae hi yn helpu e ymhob agwedd o’i fywyd. Fe glywson ni hefyd sut gollodd Tony ei olwg dros nos pedair blynedd yn ôl, a sut mae e’n ymdopi gyda’i fywyd gwahanol. Fe fydd ci newydd gan Tony yn y flwyddyn newydd ac mae e wedi addo dôd yn ôl i’n gweld ni gyda’i bartner newydd!!
As we continue our whole school theme ‘Diversity’ we were blessec with a visit from Orchid the guide dog, with Josh, Tony and Jen. Josh told us about the important work Orchid does every dah to help him navigate lufe without his sight. We also heard from Tony about how his life has chanved since he lost his sight overnight 4 years ago. Tony will be having his first guide dog in the new year and he has promised to come back to visit us with his new partner!