Menu

Interactive Bar

Google Search
Google Translate
Log in
School Logo

Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn

Latest News

Rydyn ni yma!!! Waw!!! Am adeilad ffantastig!! Edrychwn ymlaen at groesawu pawb i brynhawn agored ar Ddydd Gwener Ionawr 31ain er mwyn i chi ymfalchio yn ein cyfleusterau newydd!!

We are in!! Waw!! What an amazing building!! We are very much looking forward to welcoming you to our open afternoon on Friday January 31st so you can appreciate our fantastic new facility!!

  • Taith Enfys / Rainbow Walk

    Mon 18 May 2026 PD

    Da iawn wir!!! / Fantastic girls!!

    Llongyfarchiadau mawr i Llio, Martha, Nelly, Poppy- Grace ac Isabel am gymryd rhan yn y daith enfys i godi arian tuag at glwb Pêl-rhwyd Glynrhedyn, Ferndale Falcons!! Gwych ferched!! 👏🏻🌈

     

    A huge well done to our pupils Llio, Martha, Nelly, Poppy- Grace and Isabel for taking part in the Rainbow walk to raise money for the Ferndale Falcons netball team!! It looks like lots of fun!! 🌈👏🏻

  • Eisteddfod Urdd, Cylch y Rhondda

    Tue 10 Mar 2026 PD

    Cafwyd perfformiadau gwych gan ein plant ar Ddydd Sadwrn gyda unigolion a pharti unsain yr ysgol yn cystadlu. Llwyddodd y parti i ennill ail wobr felly yr Eisteddfod Sir amdani ar Fawrth 21ain!!! ❤️

     

     

  • Dathliad Gŵyl Dewi / St David’s Celebration

    Tue 10 Mar 2026 PD

    Dathliad Dydd Gŵyl Dewi

    Braf oedd croesawu ein teuluoedd ac aelodau y gymuned i’r ysgol i fwynhau eitemau Cymreig gan y plant ac i fwynhau paned a phicer ar y maen hefyd!!

     

    St David’s Day Celebration

    It was a pleasure to welcome our families and the community into school to celebrate St David’s Day watching items from our pupils and enjoying a cuppa and a welsh cake!!!

  • Ymweliad gan y bardd Tudur Dylan Jones

    Thu 26 Feb 2026 PD

    Braint oedd croesawu y bardd Tudur Dylan Jones i’n hysgol ddoe fel rhan o ddathliad 75 mlwyddyn o Addysg Gymraeg yn y Rhondda. Camsom brynhawn arbennig yn ei gwmni yn ysgrifennu pennill o gerdd, gydag ambell dric hud a llawer o chwerthin!! Fe fydd pob ysgol yn y clwstwr yn cael gweithio gyda Tudur Dylan er mwyn creu campwaith i ddathlu eleni. Am brofiad i’n disgyblion!!

     

    It was an honour to welcome Tudur Dylan Jones to our school yesterday as part of the activities to celebrate 75 years of Welsh Medium Education in the Rhondda. We had a lovely afternoon writing poetry, with some magic tricks and lots of laughter thrown in!! Every school in the cluster will have the opportunity to work with Tudur Dylan to create a masterpiece to celebrate this year. What an experience for our pupils!!

  • Wythnos Diogelwch y We

    Tue 10 Feb 2026 PD

    Cawsom wasanaeth yng nghwmni Arweinwyr Digidol yr ysgol heddiw. Clywson ni am ddefnydd AI a hefyd dysgon ni am y reolau MEDDWL, STOPIO, GOFYN os ydyn ni yn gweld rhywbeth sy’n gwneud i ni deimlo yn anghyfforddus.

  • Wythnos Almaeneg

    Fri 16 Jan 2026 PD

    Cawsom wythnos arbennig yn dathlu ein perthynas newydd gyda ysgol Almaeneg! Gwisgon ni crocs a sliperi yn yr ysgol ac fe wisgon ni coch, du ac aur fel baner yr Almaen!! 🇩🇪🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

  • Glanllyn 2025

    Tue 09 Dec 2025 PD

    Aeth Miss Davies, Miss Walker a 10 o blant blwyddyn 5 i Lanllyn and ddwy noson. Roedd y daith yn gyffrous gyda plant ysgolion y clwstwr yn dod at ei gilydd fel rhan o’r broses pontio gyda Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Daeth Mrs Delyth Seaton, Pennaeth Blwyddyn 7 hefyd er mwyn dod i ‘nabod y plant. Roedd y daith yn un llwyddiannus iawn, ac fe gafwyd gymaint o hwyl yn canwïo, dringo, nofio a llawer mwy!!

     

    Miss Davies, Miss Walker and 10 year 5 pupils went to Glanllyn for two nights. The trip was so exciting especially because all the year 5 children from our cluster came together for the first time as part of the transition programme with Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Mrs Delyth Seaton, the head of year 7 also came with us so she could begin getting to know the children. We had so much fun canoeing, climbing, swimming and more!!

  • Ymweliad Mr Lucas ar Almaen / Mr Lucas’ visit to Germany

    Thu 04 Dec 2025 PD

    Llwyddodd yr ysgol gyda chais i ddanfon aelod o staff ar daith i’r Almaen er mwyn ffurfio perthynas gydag ysgol yn y wlad. Fel y gwyddoch, mae ein disgyblion wedi dysgu geirfa Almaeneg syml, gan gynnwys cyfarchion, lliwiau, a rhifau. Wedi'r ymweliad, ein gobaith yw creu partneriaeth gref er mwyn hybu sgiliau ieithyddol ynghyd a dealltwriaeth gadarn o ddiwylliant y wlad. Edrychwn ymlaen at wasanaeth arbennig gyda Mr Lucas ar 8fed o Ragfyr er mwyn clywed mwy!! 🇩🇪

     

    Our school was fortunate recently to obtain a grant enabling one member of staff to travel on an exchange weekend to Germany. The focus of the trip was to form a relationship with a German school. As you know our pupils have been learning simple vocabulary such as greetings, colours and numbers, but we hope to strengthen this partnership in order to further develop language skills and understanding of German culture. We are looking forward to a special assembly with Mr Lucas on 8th December to hear more!! 🇩🇪

  • Wythnos gwrth-fwlio 2025

    Wed 12 Nov 2025 PD

    Yr wythnos hon rydyn ni wedi bod yn trafod sut gall geiriau a gweithredoedd frifo teimladau pobol. Rydyn ni wedi bod yn perfformio dramau byr ac ysgrifennu cardiau caredigrwydd hefyd! #byddwchyngaredig

     

    This week we have been talking about how words and actions can hurt others. We have been performing short dramas and writing kindness cards! #bekind

  • Ymweliad gan Mrs Thomas o Fanc Bwyd y Rhondda / A visit from Mrs Thomas, who manages The Rhondda Food Bank

    Wed 05 Nov 2025 PD

    Diolch o galon i Mrs Theresa Thomas am ddod i’n gwasanaeth bore ‘ma i ddiolch i ni am gasglu ar gyfer Banc Bwyd y Rhondda. Fe glywson ni bod dros 4000 o bobol wedi elwa o becynnau bwyd yn ystod y flwyddyn diwetha, a bod y galw am fwyd yn cynyddu. Roedd nifer o blant wedi gofyn cwestiynau call iawn, ac roedd Mrs Thomas wedi dwli siarad gyda’r disgyblion. Rydyn ni yn ffodus iawn i gael Mrs Thomas fel un o lywodraethwyr ein hysgol!

     

    A huge thank you to Mrs Theresa Thomas, the manager of The Rhondda Food Bank for coming to our assembly this morning to talk to the pupils about her work. We heard that during the last year the Food Bank has been able to help over 4000 people including families with children. Lots of sensible questions were asked by our pupils, and Mrs Thomas really enjoyed talking to them. We are very fortunate that Mrs Thomas is one of our valued members of the Governing Body!

Top