Ymweliad gan Mrs Thomas o Fanc Bwyd y Rhondda / A visit from Mrs Thomas, who manages The Rhondda Food Bank
Diolch o galon i Mrs Theresa Thomas am ddod i’n gwasanaeth bore ‘ma i ddiolch i ni am gasglu ar gyfer Banc Bwyd y Rhondda. Fe glywson ni bod dros 4000 o bobol wedi elwa o becynnau bwyd yn ystod y flwyddyn diwetha, a bod y galw am fwyd yn cynyddu. Roedd nifer o blant wedi gofyn cwestiynau call iawn, ac roedd Mrs Thomas wedi dwli siarad gyda’r disgyblion. Rydyn ni yn ffodus iawn i gael Mrs Thomas fel un o lywodraethwyr ein hysgol!
A huge thank you to Mrs Theresa Thomas, the manager of The Rhondda Food Bank for coming to our assembly this morning to talk to the pupils about her work. We heard that during the last year the Food Bank has been able to help over 4000 people including families with children. Lots of sensible questions were asked by our pupils, and Mrs Thomas really enjoyed talking to them. We are very fortunate that Mrs Thomas is one of our valued members of the Governing Body!